Cofnodion cryno - Bwrdd Taliadau


Lleoliad y cyfarfod:

Fideogynhaliad (ar Microsoft Teams)

Dyddiad: Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020

Amser: 09.00 - 13.00


Preifat

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Bwrdd:

Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd)

Ronnie Alexander

Michael Redhouse

Y Fonesig Jane Roberts

Hugh Widdis

Swyddogion:

Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol

Joanna Adams, Uwch Bartner Busnes yr Aelodau

Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil

Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol

Dean Beard, Cymorth Busnes i’r Aelodau

Deb Suller, Cymorth Busnes i’r Aelodau

Huw Gapper, Trawsnewid Strategol

Dan Collier, Trawsnewid Strategol

Gareth Price, Pennaeth Cyfathrebu

Ian Thomas, Prosiect Rheoli Cynnwys a’r Wefan

John Brassington, Prosiect Rheoli Cynnwys a’r Wefan

Ysgrifenyddiaeth:

Lleu Williams (Clerc)

David Lakin (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1         Eitem i’w thrafod: Cyflwyniad y Cadeirydd

1.1         Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r bwrdd a’r swyddogion i’r cyfarfod.

1.2         Croesawodd y Cadeirydd Dean Beard, Deb Suller, Dan Collier a Huw Gapper o Gomisiwn y Senedd i’r cyfarfod.

1.3         Derbyniodd y bwrdd gofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd, fel y’u diwygiwyd.

1.4         Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a chytunwyd nad oedd yn rhaid gwneud newidiadau ychwanegol i’r cymorth sy’n cael ei roi ar hyn o bryd.

1.5         Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ddeddfwriaeth ynghylch pwerau i ohirio etholiad y Senedd yn 2021 yn ôl yr angen. Holodd y bwrdd ynghylch effaith gohirio’r etholiad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, gan gytuno y dylid trafod y mater hwn mewn rhagor o fanylder yn ei gyfarfod nesaf.

1.6         Cytunodd y bwrdd ar fân ddiwygiadau i ffurflen y Gofrestr o Fuddiannau, gan gytuno y dylai’r aelodau geisio llenwi’r ffurflen erbyn y cyfarfod nesaf.

1.7         Cafwyd cydnabyddiaeth gan y bwrdd fod angen penodi Swyddog Diogelu Data sy’n annibynnol, sy’n arbenigwr mewn diogelu data, sydd ag adnoddau digonol ac sy’n adrodd yn ôl i’r lefel reoli uchaf.

1.8         Cytunodd y bwrdd i adolygu ei hysbysiad preifatrwydd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf.

1.9         Cytunodd y bwrdd i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am y wefan newydd yn ystod y cyfarfod nesaf.

1.10       Trafododd y bwrdd ei flaenraglen waith, gan gytuno i gael dwy drafodaeth ar wahân ar gynllunio ar gyfer senarios yn y dyfodol.

Camau gweithredu:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i lunio dogfen i roi cyngor i’r bwrdd ar ddeddfwriaeth arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch etholiad y Senedd yn 2021, i’w thrafod yn y cyfarfod nesaf.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gofrestr o Fuddiannau ac anfon y fersiwn ddiwygiedig at aelodau’r bwrdd.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i adolygu hysbysiad preifatrwydd y bwrdd a rhoi cyngor i’r bwrdd ar y broses o benodi Swyddog Diogelu Data.

·         Yr ysgrifenyddiaeth i lunio papurau trafod i helpu i gynllunio ar gyfer gwahanol senarios yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

</AI1>

<AI2>

2         Eitem i’w thrafod: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

2.1      Cytunodd y bwrdd i ohirio’r drafodaeth ar gymorth mewn perthynas â diogelwch yr Aelodau tan y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai’r materion hyn yn cael eu trafod fel rhan o drafodaeth strategol ehangach ar y cymorth mewn perthynas â diogelwch a roddir i Aelodau o’r Chweched Senedd.

2.2      Trafododd y bwrdd gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriad fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd. Cytunodd y bwrdd ar y cynigion a ganlyn:

·         O gofio’r amgylchiadau economaidd presennol, ar ôl rhewi cyflogau’r Aelodau yn 2019/20, mae’r bwrdd yn cynnig:

o   ar gyfer cyflogau 2020/21, fod penderfyniad y bwrdd i rewi cyflogau ar gyfradd 2019/20 yn parhau (hynny yw, peidio â chynyddu cyflogau 4.4 y cant, sef y cynnydd mewn enillion cyfartalog a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol);

o   ar gyfer cyflogau 2021/22, i gynyddu’r cyflogau sylfaenol a gafodd eu rhewi 2.4 y cant, sef y cynnydd a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol – mae hyn yn golygu mai cyflog sylfaenol Aelodau ar ddechrau’r Chweched Senedd fydd £69,273, yn hytrach na’r £72,321 a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020; a

o   chyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant i gyflogau’r Aelodau a deiliaid unrhyw swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd.

·         Peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y Chweched Senedd.

·         Dileu unrhyw gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd, neu roi’r term priodol yn lle’r cyfeiriadau hyn yn ôl yr angen, yn narpariaethau’r Penderfyniad ynghylch teithiau gan Aelodau.

·         Symud costau deunyddiau ysgrifennu mewn ffordd niwtral o ran cost o Gomisiwn y Senedd at Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr. I adlewyrchu hyn, bydd lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr yn cynyddu £1,800 i £20,060 (neu £6,712 lle bo Aelod yn gweithio o Dŷ Hywel yn unig) ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.

·         Bydd Aelodau sy’n dychwelyd yn gallu hawlio costau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad i’r Senedd o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

·         Gwella cynllun pensiwn staff cymorth drwy gyflwyno cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr, lle bydd y cyflogwr yn talu swm sy’n gyfatebol i gyfraniad y cyflogai hyd at uchafswm o 3 y cant o gyflog y cyflogai;

·         O ran cyflogau staff cymorth Aelodau o’r Senedd yn ystod y Chweched Senedd, cyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn ôl mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant.

·         Dileu’r angen am ganllawiau ychwanegol gan y bwrdd ynghylch y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu. Fel sy’n digwydd gyda’r holl wariant o dan y Penderfyniad, bydd Rheolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch Defnyddio Adnoddau’r Senedd yn berthnasol. Fel diwygiad canlyniadol, mae’r bwrdd yn cynnig cynnwys terfyn amser cyfatebol o bedwar mis cyn etholiad cyffredinol yn y Penderfyniad ynghylch polisi ac ymchwil o dan y lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol (mae’r terfyn amser hwn eisoes wedi’i gynnwys fel rheol yng Nghronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu yr Aelodau, ond mae’r un terfyn amser wedi’i nodi fel canllaw yn unig yn y lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol).

·         Gall Aelodau ond talu am gostau argraffu ac arwyddion o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, nid y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu.

·         Mewn ymateb i’r chwyddiant mewn costau a amlygwyd yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion a’r mynegai prisiau defnyddwyr, cynyddu’r lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 1.94 y cant i £1,018,500 ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.

·         Newid y diffiniad o bleidiau gwleidyddol yn yr adran ‘Dehongli’ yn y Penderfyniad fel a ganlyn:

o   “Ystyr “Plaid Wleidyddol” yw (i) grŵp o Aelodau sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol sydd wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Etholiadol neu (ii) sydd wedi’i chydnabod fel grŵp o dan Reol Sefydlog 1.3 (ii), neu (iii) Aelod unigol sydd wedi rhoi gwybod i’r Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau ei fod yn aelod o Blaid Wleidyddol gofrestredig.”

2.3      Cytunodd y bwrdd ar amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad.

2.4      Cytunodd y bwrdd ar y rhestr o randdeiliaid ar gyfer yr ymgynghoriad, fel y’i trafodwyd. At hynny, nododd y bwrdd ei awydd i ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru eto yn y dyfodol. Cytunwyd y dylid trafod hyn fel rhan o’r trafodaethau strategol yn y dyfodol.

2.5      Cytunodd y bwrdd i gynnwys fersiwn gryno o’r hysbysiad preifatrwydd yn y ddogfen ymgynghori, gyda linc i’r hysbysiad preifatrwydd llawn ar ei wefan.

2.6      Cytunodd y bwrdd i’r diwygiadau i’r ddogfen ymgynghori ddrafft.

2.7      Cytunodd y Cadeirydd i adolygu fersiwn derfynol y datganiad i’r wasg ynghylch y ddogfen ymgynghori yn dilyn y cyfarfod.

Camau gweithredu:

 

</AI2>

<AI3>

3         Eitem i’w thrafod: Gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu'r Bwrdd

3.1      Cytunodd y bwrdd ar ei flaenoriaethau cyffredinol ar gyfer ei waith cyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod cyfnod y bwrdd presennol.

3.2      Trafododd y bwrdd sut y gallai wella ei gyfathrebiadau mewnol, gan gytuno i ymgynghori â’r Aelodau a’u staff cymorth ynghylch sut y mae’n cynnal ei ymgynghoriadau.

3.3      Trafododd y bwrdd opsiynau ar gyfer ei gysylltiadau allanol a’i gyfathrebiadau. Nododd y bwrdd ei fod yn awyddus i drafod defnyddio dulliau mwy cydgynghorol o ymgysylltu ar faterion a phenderfyniadau pwysig, yn ogystal â datblygu perthynas mwy gweithredol â rhanddeiliaid yn y cyfryngau.

3.4      Cytunodd y bwrdd i drafod cynyddu ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac i ofyn am gyngor gan dîm Cyfathrebu y Senedd ynghylch sut i wneud ei waith yn fwy deniadol ar lwyfannau o’r fath.

3.5      Cafodd y bwrdd gyflwyniad i wefan newydd y Senedd.

3.6      Trafododd y bwrdd ei dudalennau ar wefan newydd y Senedd a phryd y byddant ar gael ‘yn fyw’. Cytunodd y dylid trosglwyddo parth y bwrdd ar y we i wefan newydd y Senedd ar ôl gwneud newidiadau i’r cynlluniau drafft ar gyfer y tudalennau perthnasol.

3.7      Cytunodd i drafod ei dudalennau ar y we eto yn ystod y cyfarfod nesaf.

Camau gweithredu:

 

4          Unrhyw fater arall: dyfarniad McCloud

4.1      Trafododd y bwrdd y llythyr a ddaeth i law gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiynau.

4.2      Cytunodd y bwrdd i ofyn am gyngor cyfreithiol ar gymhwyso dyfarniad McCloud yng nghyd-destun Cynllun Pensiwn yr Aelodau.

4.3      Cytunodd y bwrdd i drafod y mater hwn yn ystod ei gyfarfod nesaf.

Camau gweithredu:

</AI3>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>